6ed, 13eg a 20fed Awst 2026, yn gadael Llanuwchllyn am 6.15pm
Ffordd ddymunol iawn o dreulio'r noswaith ar daith dwy ffordd gyda trên stêm.
Ymunwch â ni am daith hwyrnos ar drên stêm i ben draw’r rheilffordd, gydag arhosfan estynedig wrth ymyl y llyn yn Llangower ar y ffordd yn ôl i fwynhau byrgyr ffres neu gi poeth. Gwyliwch yr haul yn machlud dros y llyn – golygfa odidog ar noson glir.
Bydd modd archebu ar-lein ar gyfer y trenau hyn yn agosach at y digwyddiad.


