Eich taith

Mae Rheilffordd Llyn Tegid yn cynnig taith ddelfrydol o 9-milltir (tua 1 awr) yna ac yn ôl ger bron glannau Llyn Tegid, drwy harddwch naturiol Parc Cenedlaethol Eryri. Gwelir golygfeydd eang a godidog ar draws Llyn Tegid, i’r wlad o gwmpas yn ogystal â mynyddoedd Arenig Fawr, Aran Benllyn ac Aran Fawddwy. Cadwch lygad am grëyr a boncathod sy’n nythu o gwmpas y lein – esiampl perffaith sut y gall natur a peiriant barhau ochr wrth ochr.

Llanuwchllyn

Llanuwchllyn StationMae proif-orsaf y rheilffordd ym mhentref bach prydferth Llanuwchllyn, lle ceir digon o le parcio i geir, lluniaeth ysgafn, siop anrhegion a chofroddion, toiledau, byrddau picnic yn ogystal ac oll adeiladau storio a chynnal y trenau.

Mae’r trenau i gyd yn cychwyn a gorffen eu gwaith yn Llanuwchllyn, a gall ymwelwyr sy’n cyrraedd yn gynar weld injan y diwrnod yn cael ei baratoi cyn cychwyn y tren cyntaf.  Ar ddiwedd pob taith (ac eithro y siwrne olaf pob dydd) bydd yr injan yn cymeryd dŵr ac yn cael ei pharatoi ar gyfer y daith nesaf ym mhen pellaf yr orsaf, proses sy’n werth ei weld.

Llanuwchllyn ShedsGwelir focs signals gwreiddiol Rheilffordd y Great Western sy’n dyddio yn ôl i 1896 yn Llanuwchllyn, a gellir cael golwg tu mewn yn amlach na pheidio.

Pentref Llanuwchllyn

Wedi leoli wrth ben y llyn (felly Llan-uwch-llyn), mae gan y pentref hanes sy’n mynd yn ôl ganrifoedd. Yn yr egwlys gwelir hen blât cymun sy’n dangos stori y Temtasiwn, a mae yna hefyd ddelw o farchog or 14eg ganrif.

Ganwyd Sir O.M. Edwards a’i fab Sir Ifan ap Owen Edwards, sylfaenydd Urdd Gobaith Cymru, yn Llanuwchllyn.

Mae’r pentref yn enwog hefyd fel cartef i’r côr cymysg byd-enwog, Côr Godre’r Aran, Aelod Seneddol  a thîm pêldroed amatur brwdfrydig.

Chwedlau y Brenin Arthur a mwy

Tua milltir i lawr y ffordd o’r Bala, heb ei farcio, mae caer Rhufeinig Caer Gai. Roedd milwyr Rhufeinig yma rhwng AD 75-130 and roedd cartrefi i’r cyhoedd a mynwent. Roedd y gaer wedi’w leoli ar ffordd strategol ger adnoddau pwysig o aur, plwm a manganîs. Yn ôl y chwedl dyma hefyd oedd cartref Sir Hector, un o farchogion y Brenin Arthur, a mae’r enw yn cofnodi ei fab Cai Hir, neu Sir Kay.

Ym mhellach ymlaen yn y 17eg ganrif, yn amser y rhyfel gartrefol yn Lloegr, bu i Rowland Vaughan, cefnogwr brwdrfydig y goron, fyw yn y fferm a gafodd ei adeiladu o fewn muriau’r gaer. Wedi brwydr Naseby (1645), bu milwyr Oliver Cromwell yn hela unrhyw gefnogwr y brenin a bu iddynt olrain Rowland Vaughan i’w fferm. Er i Vaughan ddianc, dymchwelwyd yr holl eiddo gan gynwys y fferm a’r gaer.

Pentrepiod

Wedi gadael Llanuwchllyn, mae’r lein yn rhedeg yn syth am tua milltir i lawr allt Dolfawr sy’n disgyn ar raddfa o 1 mewn 70 tuag at ochr y llyn.  Gwelir golygfa eang o’r bryniau cyfagos ar draws y dolydd tua chyffinia’r llyn.

Wrth deithio heibio yr orsaf gais bychan yn Pentrepiod, mae’r tren yn gwibio heibio torfa byr, yna Gorsaf Fflag Glanllyn, cyn teithio dros y cyntaf o sawl arglawdd a chyrraedd gorsaf Llangywer, lle mae man pasio sy’n caniatau i ddwy dren basio’i gilydd.

Llangywer

Llangower StationGellir gadael y tren yn Llangywer i fwynhau cerdded wrth lan y llyn, i fynd i wylio’r adar, neu am bicnic. O’r orsaf hefyd gellir fynychu’r maes parcio cyfagos neu ddefnyddio toiledau Parc Cenedlaethol Eryri.

Pentref Llangywer, neu Llangywair

Mae Llangywer yn bentref bychan gyda eglwys hynafol bach hyfryd, dair milltir o’r Bala a wedi’w leoli mewn llecyn braf ar yr ochr dde-ddeheuol o’r llyn. Saif y pentref ar y ffordd dyrpeg wreiddiol rhwng Dinas Mawddwy, y Bala a Chorwen.

Enwyd eglwys Llangywer ar ôl Cywair, neu Sant Gwyr, adeilad hanesyddol mewn arddull saesnegaidd cynnar.  Saif coeden ywen yn y fynwent a gellir gweld yr eglwys yn glir o’r tren.

Mae’r lein yn codi yn araf wrth adael Llangywer gan groesi dros afon fechan ac o dan bont ffordd cyn disgyn drwy dorfa yn y coed ac ymuno ger bron y llyn unwaith eto. Mae’r raddfa yn codi eto ar arglawdd wrth yml y llyn, yna drwy dorfa craig ym Mryntirion gan ddal i godi drwy’r coed cyn i’r raddfa newid. Mae’n nawr yn disgyn yn araf wrth agosau at lan y llyn ar yr arglwadd nesaf.  Yma ceir golygfa hardd ar draws y llyn tuag at y Bala, wrth groesi pont ddur (edrychwch am y cwt i gadw cwch ar yr ochr arall), cyn dod at dorfa laswellt a throiad hir, ac yna bont o dan y lôn ar y ffordd i mewn i orsaf Bala (Penybont).

Bala (Penybont)

Bala StationHeblaw am arosfan syml dan do, mae’n ddrwg iawn gennym nad oes cyfleusterau eraill yma i deithwyr yn yr orsaf. Dim ond lle ar yml y lon sydd yna i barcio ceir, ond mae sawl maes parcio yn y Bala ei hun sydd tua 10 munud o waith cerdded o’r orsaf.  Mae bwriad gan y Cwmni i ymestyn y lein i’r Bala ei hun er mwyn hwyluso y sefyllfa i deithwyr ac er lles y dref. Yn arferol bydd trenau yn aros yma am tua 10 munud tra mae’r injan yn rhedeg o un pen i’r llall, rhai teithwyr yn gadael ac eraill yn ymuno â’r tren, a thra mae’r giard yn gwerthu a gwirio’r tocynau. Yna bydd y tren yn cychwyn ar y daith yn ôl i Lanuwchllyn.

Er mae Gorsaf Bala sydd ar yr holl arwyddion, nid Gorsaf y Bala, na Chyffordd y Bala oedd hwn yn wreiddiol on Arosfan Llyn Bala ar y brif lein rhwng Rhiwabon a Morfa Mawddach / y Bermo.

Tref y Bala

Mae tref y Bala tua 10 munud o’r orsaf wrth droed, ac yn werth edrych o’i chwmpas os yw’r amser ar gael, gan fod iddi sawl siop diddorol yn ogystal a llefydd bwyta a thafarndai croesawus.

Mwnt Normanaidd

Cafodd gosodiad y strydoedd eu sefydlu gan Roger de Mortimer o gastell y Waen (Chirk Castle) yn y 14eg ganrif a maent wedi’w gosod mewn llysoedd sgwâr. Mae Stryt Fawr, y brif stryd, yn un llydan gan mae yma ym mhob ochr ledled ei hyd y cynhalwyd y marchnadoedd gwreiddiol.

Roedd dwy o’r strydoedd i’r ochr, sef Heol Arenig a Heol Plase ynghlwm a’r hen domen. Mae ‘Tomen y Bala’ yn domen, neu fwnt, Normanaidd nodweddiadol, wedi’w leoli tuag at un pen i’r dref, ac yn awr yn ardd gyhoeddus y gellir ei ymweld. Mae’n werth dringo i gopa’r mwnt am y golygfeydd godidog dros Llyn Tegid tuag at y mynyddoedd yr ochr arall sy’n codi’n uchel a serth.

Llyn Tegid

Bala LakeBala LakeHwn  yw’r llyn naturiol mwyaf yng Ngymru. Gwnaethir defnydd eang o’r 1,084 acer gan gychod hwylio sy’n bendithio o’r gwyntoedd a ddaw i lawr drwy’r dyffryn, canŵs, caiacs a sawl un arall sy’n mwynhau’r dyfroedd. Mae’r llyn yn 4 milltir (6.4 km) o hyd, ac yn filltir (1.6 km) mewn lled, ac yn gally llifogi yn sydyn. Crëwyd y llyn drwy effaith rhewlifoedd, ac yn wreiddiol roedd ddwy waith mor hir, tua 8 milltir i gyd.

Rhed yr Afon Dyfrdwy i mewn ac allan o’r llyn, a mae dŵr yr afon yn enwog am fod mor glir. Mae’r llyn erbyn hyn yn ran o sustem reoleiddio Afon Dyfrdwy, a caiff lefel y llyn ei reoli yn awtomatig. Gall y dŵr sy’n rhedeg i  lawr Afon Tryweryn o Lyn Celyn lifio unai i mewn neu allan o’r llyn gan ddibynu ar sefyllfa y dŵr yn y ddau lyn.

Chwedlau hanesyddol

Mae pysgota’r llyn wedi bod yn bwysig ers y dyddiau cynar.  Dywedir ar nosweithiau golau, pan fo’r lleuad yn llawn, y gellir gweld tyrau ac adeiladau o dan y dyfroedd, ac os gwrandewr yn astud sŵn clychau yn canu.  Yn ôl yr hen chwedlau palas y Brenin Tegid, gwr Ceridwen, mam Taliesin ydi’r adeiladau.

Mae Llyn Tegid yn bwysig hefyd fel cartref y pysgotyn gwyn prin, y Gwyniad, math o benwaig sydd wedi datblygu o fewn y tir-gloi yn y llyn, a sy’n nofio yn y dyfrderoedd tyfn.