12fed Gorffennaf 2025
Rydym unwaith eto yn hapus i gydweithio efo elusen Tedis for Loving Care Gogledd Cymru sy’n elusen wych gyda’r unig bwrpas o greu gwen a chael gwared ar bob trallod i blant ifanc sy’n gorfod ymweld â’u Huned Damweiniau ac Argyfyngau lleol.
Dewch i ymuno â’r tedis i gyd ar eu diwrnod allan ar Reilffordd Llyn tegid ar 12 Gorffennaf 2025 am ddiwrnod llawn hwyl, chwarae gemau a chael eich diddanu gan ein consuriwr a jyglwr wrth i chi aros am eich trên, a lle gallwch hefyd ddysgu mwy am y TLC a sut y gallwch gefnogi'r elusen wych hon.
Bydd y tedis yn edrych ymlaen at weld pawb yno a pheidiwch ag anghofio, bydd unrhyw blentyn o dan 8 oed sy'n dod â'u tedi eu hunain yn cael taith am ddim ar y trên gyda Mam a Dad.