Gwybodaeth Teithio – Dydd Sul 7fed Medi (Cau Ffyrdd ar gyfer Triathlon Bala)

Byddwch yn ymwybodol, oherwydd Triathlon Bala, y bydd yr A494 ar gau rhwng 09:00 a 15:00 o Ganolfan Hamdden Bala i Ryd y Main (ar ochr Dolgellau o Lanuwchllyn).

Mynediad o Ddolgellau

Bydd mynediad cyfyngedig i Orsaf Llanuwchllyn ar gael trwy Ryd y Main:

  • Ar gyfer y trên sy’n cychwyn am 11:30, cyrhaeddwch bwynt cau ffordd Rhyd y Main erbyn 10:55am i ymuno â'r confoi.
  • Ar gyfer y trên sy’n cychwyn am 13:30, cyrhaeddwch Ryd y Main erbyn 12:55pm.

⚠️ Nodir: Mae'r daith o Ddolgellau i Ryd y Main yn cymryd o leiaf 10 munud.

Mynediad o'r Bala

Yn anffodus, nid oes trefniadau confoi ar gael o ochr y Bala.

  • Defnyddiwch Orsaf y Bala, neu
  • Teithiwch ar hyd y B4403 o’r Bala i gyrraedd Llanuwchllyn (caniatewch amser ychwanegol, gan fod y ffordd yma yn debygol o fod yn brysur).

Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir a diolch am eich dealltwriaeth.