
Oherwydd Triathlon y Bala, rydym wedi cael gwybod y bydd yr A494 ar gau rhwng Canolfan Hamdden y Bala a Rhydymain dydd Sul 6ed Medi rhwng 09:00 a 15:00.
Mae hyn yn golygu na fydd mynediad uniongyrchol i orsaf Llanuwchllyn na'r pentref o gyfeiriad y Gorllewin / Rhydymain (ac eithrio fel y nodir isod), a'r unig ffordd i gyrraedd Llanuwchllyn o'r Bala yw trwy'r B4403 sy’n ffordd gul ar ochr yr ddeheuol o’r llyn.
Mae trefniadau wedi'u gwneud i un confoi o gerbydau deithio ar hyd yr A494 o Ganolfan Hamdden y Bala i Lanuwchllyn am 11:10 y.b. mewn pryd ar gyfer ein tren am 11:30, ac un confoi o gerbydau i deithio o Rydymain i Lanuwchllyn am 1:00 y.p., mewn pryd ar gyfer ein tren am 1:30 y.p. Rhaid i gerbydau fod wrth y pwynt cau ffordd ddim hwyrach na'r amseroedd hyn.
Mae'r trefnwyr wedi nodi y byddant yn ceisio codi'r cyfyngiadau cyn 15:00 os yn bosibl, fel y dylai mynediad i Lanuwchllyn fod ar gael ar hyd yr A494 ar gyfer ein tren am 3:15 y.p.
Gadewch amser ychwanegol os ydych yn bwriadu ymweld â ni ar y 6ed, ac ymddiheurwn am yr anghyfleustra a achosir gyda cau y ffordd, sydd tu hwnt i'n rheolaeth.
