Dathliadau Hanner Canrif ein Trên Cyntaf

13eg o Awst 2022

Yn 2020 rydym yn dathlu 50 mlynedd ers i’r trên cyntaf redeg ar Reilffordd Llyn Tegid. Drwy gydol y flwyddyn byddwn yn cynnal sawl gweithgaredd cyffrous i gofnodi’r garreg filltir arbennig yma.

Ar y dyddiad arbennig yma, yn 1972, y rhedodd ein trên cyntaf erioed.

I Bentrepiod y rhedodd ein trên cyntaf, cyn ymestyn yn fuan iawn i Langywair, yna i Bant-yr-Hen-Felin, cyn cyrraedd Bala yn 1976.

Byddwn yn cofnodi’r diwrnod yma drwy edrych yn ôl ar ein dyddiau cynnar o weithredu ac ar y trenau oedd yn rhedeg hanner canrif yn ôl:

  • 10:15 gadael am Pentrepiod gyda Lady Madcap a Chilmark, sy’n cynrychioli’r math o drên a ddefnyddiwyd yn ystod ein agoriad gwreiddiol.
  • 11:15 gadael am Langywair gyda’n locomotif disel Meirionnydd sy’n cynrychioli y cyfnod nesaf yn ein hanes.
  • 1:30 gadael am Pant-yr-Hen-Felin, gydag un o’n peiriant stêm Maid Marian a’n peiriant disel Chilmark.
  • 3:15 i Bala gyda Maid Marian sy’n cynrychioli ein traddodiad heddiw.

Bydd ein hamserlen las arferol hefyd yn weithredol.

Mae ticedi ar gyfer ein Diwrnod Rover ar gael i deithio ar ein trenau ychwanegol isod, yn ogystal â thicedi ar gyfer pob taith unigol.

 

 

 

 

Amserlen: glas
Llanuwchllyngad11.0012.50 2.30 4.05
Llangower / Llangywairgad11.10 1.00 2.40 4.15
Balacyr11.25 1.15 2.55 4.30
Balagad11.40 1.30 3.10 4.35
Llangower / Llangywairgad11.55 1.45 3.25 4.50
Llanuwchllyncyr12.10 2.00 3.40 5.05