5ed, 12fed ac 19eg Awst 2021
Ffordd ddymunol iawn i dreulio'r noson ar daith i’r Bala ac yn ôl gyda trên stêm yn gadael Llanuwchllyn am 6:15 yr hwyr.
Arhoswn am farbeciw yn Llangower ac i wylio’r haul yn machlyd dros y llyn.
Ymunwch â ni am wibdaith hyfryd fin nos ar drên stêm ar hyd y rheilffordd gyflawn, gyda stop estynedig wrth y llyn ar y ffordd yn ôl i fwynhau byrgyr ffres neu gi poeth. Gwyliwch yr haul yn machlyd ar draws y llyn - golygfa odidog ar noson glir.
Mae tocynnau ar gyfer y daith trên ar gael ymlaen llaw. Nid yw hyn yn cynnwys cost y bwyd sy'n cael ei archebu ar y diwrnod.
Mae diodydd meddal, cwrw a gwin ar gael i'w prynu ar fwrdd y trên ar y teithiau hyn.
Mae'n well archebu ymlaen llaw.
Mae’r teithiau yma i gyd yn cychwyn o Lanuwchllyn am 6.15yh