Bydd yr A494 ar gau rhwng y Ganolfan Hamdden yn Y Bala a Rhyd y Main (ochr Dolgellau i Lanuwchllyn) rhwng 08:00 a 13:00 Dydd Sul y 3ydd o Fedi er mwyn cynnal Triathlon Y Bala.
Yr unig fynediad i Lanuwchllyn yn ystod y cyfnod hyn fydd ar hyd y B4403 o'r Bala, a all fod yn brysyr.
Mae trefnwyr y Triathlon wedi cytuno i ganiatáu confoi hebrwng o’r ddau gyfeiriad i Lanuwchllyn er mwyn galluogi teithwyr i ddal ein tren cyntaf am 11:30am. Manylion fel a ganlyn:
O'r dwyrain a'r gogledd (A5, A494, A470/487 i'r de, A4212 ayb), ewch i'r Bala, teithiwch ar hyd Stryd Fawr Y Bala gan gyrraedd a chiwio yn y bloc ffordd ger y Ganolfan Hamdden erbyn 11:00yb. Gadewch i’r stiwardiaid wybod eich bod eisiau dal y trên. Bydd y confoi yn gadael toc ar ôl 11:00yb.
O'r gorllewin (A470/487 i'r gogledd, A494) cymerwch yr A494 i'r dwyrain o Ddolgellau, cyrhaeddwch a chiwiwch ar y bloc ffordd yn Rhyd y Main erbyn 10:55yb. Gadewch i’r stiwardiaid wybod eich bod eisiau dal y trên. Bydd y confoi yn gadael toc ar ôl 10:55yb.
Yn anffodus, os byddwch yn cyrraedd yn hwyrach na'r amser penodedig ni fydd yn bosibl caniatáu i'ch cerbyd fynd drwodd. Mae hyn er diogelwch cystatleuwyr y triathlon.
Bydd yr A494 yn cael ei hail-agor i Lanuwchllyn cyn amser gadael ein trenau hwyrach.