1af Mawrth 2026
Dewch i ddathlu Dydd Gwyl Dewi efo ni, yn naturiol ar y 1af o Fawrth, gyda taith yn rhad ac am ddim ar Reilffordd Llyn Tegid i holl drigolion Gogledd Cymru (bydd raid i chi brofi’ch cyfeiriad). Bydd pris gostyngol ar gael i bawb arall.
Cynnig Teithiau am Ddim / Gostyngol Ddydd Gŵyl Dewi
Bydd trigolion Gogledd Cymru yn gallu mwynhau taith am ddim ar Reilffordd Llyn Tegid dydd Sul 1 af Mawrth i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.
Mae pawb arall yn gymwys i gael gostyngiad ar docynnau dwyffordd y siwrne llawn.
Rhaid archebu tocynnau ar-lein yn: https://shop.bala-lake-railway.co.uk/book/
Dewiswch 1af Mawrth fel y ddyddiad; dewisiwch i gychwyn o Lanuwchllyn neu'r Bala; yna taith ddwyffordd, ac yna yr amseroedd ar gyfer eich taith allan ac yn ôl.
Ar gyfer trigolion Gogledd Cymru, rhowch y côd: dewisant-26 yn y blwch côd disgownt. Yna rhowch eich côd post yn y blwch nesaf cyn y byddwch yn gallu dewis eich tocynnau. Tra rydych yn dangos eich tocyn i’r giard, bydd angen hefyd dogfen (trwydded yrru neu fil diweddar) i wirio’ch cyfeiriad yng Ngogledd Cymru.
I bawb arall, rhowch y côd: stdavid-26 yn y blwch côd disgownt. Yna dewiswch eich tocynnau gostyngol a thalu fer arfer.
Ac os nad ydych ddigon ffodus i fyw yng Ngogledd Cymru y pris gostyngedig arbennig i chi yw: Oedolion £12, Plant £3

