23ain – 25ain Awst 2025
Bydd ein gala eleni yn arddangos ein tri locomotif gweithredol, ynghyd â dau injan fy’n ymweld â ni a fy hefyd yn gweithio yn Chwarel hanesyddol Dinorwig.
Rydym wrth ein bodd cael croesawu locomotif Bagnall ‘Sybil’ a adferwyd yn ddiweddar o Reilffordd Gorllewin Swydd Gaerhirfryn, ochr yn ochr â ‘Velinheli/Felinheli’ Hunslet Chwarel o Reilffordd Ffestiniog. Dyma’r tro cyntaf i’r ddau locomotif hyn gael eu gweld gyda’i gilydd yng Nghymru ers i James Evans ei prynnu o Chwarel Dinorwig cyn iddi gau ym 1968.
Bydd digon o gyfleoedd i reidio y tu ôl i’r holl locomotifau hyn, gyda’n Hamserlen Binc ddwys mewn grym drwy gydol y digwyddiad.
Byddwn hefyd yn rhedeg rhai gwasanaethau cludo nwyddau rhwng Llanuwchlyn a Llangower gan ddefnyddio wagenni llechi o'n casgliad hanesyddol helaeth. Yn Llangower, byddwn yn ymgymryd â symudiad siyntio arbennig i ganiatáu i ddau drên teithwyr basio tra bydd y trên cludo nwyddau hefyd yn yr orsaf.
Mae'r nodweddion ar gyfer gala 2025 Awst yn cynnwys y canlynol:
- Pob injan sydd ar gael mewn stêm
- Gwasanaethau aml i deithwyr
- Trenau arddangos cludo nwyddau
- Bydd rhai trenau yn cael eu tynnu gan ddwy injan
- Gwasanaeth bysiau treftadaeth yn rhedeg rhwng gorsaf y Bala a'r dref