Teithiau Siôn Corn

12fed a 13eg Rhagfyr 2026

Mae Siôn Corn unwaith eto wedi derbyn ein gwahoddiad i ymweld â Llanuwchllyn ddydd Sadwrn 12fed a dydd Sul 13eg Rhagfyr 2026.

Bydd ein trenau arbennig yn cael eu tynnu gan ddwy o'n injeni stêm, wedi'u haddurno'n arbennig ar gyfer yr achlysur.

Bydd pob trên yn gadael o Orsaf Llanuwchllyn ar daith i lawr y lein i groto Siôn Corn lle bydd y plant yn cwrdd â Siôn Corn ac yn derbyn anrheg. Mae oedolion yn derbyn mins pei a gwydraid o sieri neu ddiod boeth.

Mae’n hanfodol archebu ymlaen llaw a mae prisiau arbennig ar gael.

Bydd y daith gron yn cymryd tua 45 munud.


PRISIAU
Oedolyn (12 a throsodd) £13.50
Plentyn (1 i 11 oed yn gynwysedig) £16.00
Babi (dan 1 oed) Am ddim
Oedolyn ag anghenion arbennig (yn derbyn anrheg fel plentyn) £16.00
Ci £1

 

GALLWCH ARCHEBU AR-LEIN YN NAWR, DEFNYDDIWCH Y BOTYMAU ISOD: