7fed a 8fed Rhagfyr 2024
Mae Siôn Corn unwaith eto wedi derbyn ein gwahoddiad i ymweld â Llanuwchllyn ddydd Sadwrn 7fed a dydd Sul 8fed Rhagfyr 2024.
Bydd ein trenau arbennig yn cael eu tynnu gan ddwy o'n injeni stêm, wedi'u haddurno'n arbennig ar gyfer yr achlysur.
Bydd pob trên yn gadael o Orsaf Llanuwchllyn ar daith i lawr y lein i groto Siôn Corn lle bydd y plant yn cwrdd â Siôn Corn ac yn derbyn anrheg. Mae oedolion yn derbyn mins pei a gwydraid o sieri neu ddiod boeth.
Mae’n hanfodol archebu ymlaen llaw a mae prisiau arbennig ar gael.
Bydd y daith gron yn cymryd tua 45 munud.