30ain a’r 31ain Hydref 2026
Ymunwch â ni am daith brawychus fin nôs i ddathlu Calan Gaeaf!
Dewch efo ni ar daith arswydus i lawr ein lein cyn belled ag y gall y trên fynd cyn i rhyw drychineb neu gilydd orfodi’r criw i droi yn ôl.
Bydd eich trên yn aros am gyfnod byr yn Arhosfan Glanllyn (Flag) ar y ffordd yn ôl, i chi ymweld â thŷ’r gwrachod cyn y byddwch yn dychwelyd i ddiogelwch Llanuwchllyn.
Mae ein gorsafoedd wedi'u haddurno ac mae ein staff/gwirfoddolwyr yn gwisgo i fyny ar gyfer yr achlysur. Mae croeso i chi wisgo i fyny ar gyfer eich ymweliad fel y mae llawer o'n hymwelwyr yn ei wneud.
Bydd dau wasanaeth arbennig yn rhedeg am 5.30pm a 6.45pm o Lanuwchllyn i Glanllyn lle cewch eich diddanu gan yr ysbrydion a’r ellyllon sy’n trigo yno.
Bydd modd archebu ar-lein ar gyfer y trenau hyn yn agosach at y digwyddiad.






