Trenau Calan Gaeaf

30ain a’r 31ain Hydref 2024

Ymunwch â ni am daith brawychus fin nôs i ddathlu Calan Gaeaf!

Dewch efo ni ar daith arswydus i lawr ein lein cyn belled ag y gall y trên fynd cyn i rhyw drychineb neu gilydd orfodi’r criw i droi yn ôl.

 

Bydd eich trên yn aros am gyfnod byr yn Arhosfan Glanllyn (Flag) ar y ffordd yn ôl, i chi ymweld â thŷ’r gwrachod cyn y byddwch yn dychwelyd i ddiogelwch Llanuwchllyn.

 

Mae ein gorsafoedd wedi'u haddurno ac mae ein staff/gwirfoddolwyr yn gwisgo lan ar gyfer yr achlysur. Mae croeso i chi wisgo i fyny ar gyfer eich ymweliad fel y mae llawer o'n hymwelwyr yn ei wneud.

Bydd dau wasanaeth arbennig yn rhedeg am 5.30pm a 6.45pm o Lanuwchllyn i Glan Llyn lle cewch eich diddanu gan yr ysbrydion a’r ellyllon sy’n trigo yno.