Hysbyseb Swydd

Cynorthwy-ydd Gweithredu a Chynnal a Chadw

Gyda’r cynnydd mewn busnes a gweithgarwch, ac wrth baratoi ar gyfer ymestyn y rheilffordd i’r Bala, dyma gyfle cyffrous i ymuno â ni fel aelod allweddol o’n tîm bach sy’n redeg Rheilffordd Llyn Tegid.

Mae hon yn swydd barhaol llawn amser (40 awr yr wythnos).

Prif ddyletswyddau’r swydd fydd cyflenwi dyletswyddau giard yn ystod y tymor rhedeg trenau, ynghyd â chynnal a chadw o ddydd i ddydd i gyflwyno’r rheilffordd ar ei gorau i’n nifer cynyddol o deithwyr. Yn ystod y gaeaf bydd y ffocws yn troi at gynnal a chadw traciau, seilwaith a cherbydau. Bydd disgwyl i chi hyfforddi i gyflawni amrywiaeth o rolau i ymwneud â rhedeg y trenau, a chynorthwyo gyda'r tasgau niferus ac amrywiol sydd eu hangen i weithredu rheilffordd dreftadaeth lwyddiannus.

Dylai ymgeiswyr fod â dawn ar gyfer tasgau mecanyddol, a bod yr un mor gyfforddus wrth ddelio â chwsmeriaid a gwirfoddolwyr.

Bydd y gallu i gyfathrebu yn Gymraeg, neu barodrwydd i ddysgu yn cael ei ystyried yn fantais.

Cyflog tua £22,000 y flwyddyn

I wneud cais anfonwch gopi o'ch C.V. ynghyd â llythyr yn egluro pam yr ydych yn meddwl y byddech yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon at: Rheolwr Cyffredinol, Rheilffordd Llyn Tegid, Yr Orsaf, Llanuwchllyn, Gwynedd LL23 7DD neu drwy e-bost at: david.jones@bala-lake-railway.co.uk

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Mawrth 21 Chwefror 2023