Ffordd A494 ar gau ar gyfer Triathlon Y Bala ar Ddydd Sul 1af Medi

Rydym wedi cael ein cynghori gan drefnwyr Triathlon Y Bala y bydd yr A494 ar gau ddydd Sul 1af Medi rhwng 09:00 a 14:00 rhwng Canolfan Hamdden Y Bala, a Rhyd y Main ochr Dolgellau i Llanuwchllyn.

Bydd mynediad i orsaf Llanuwchllyn ar hyd yr A494 o Dolgellau yn cael ei ddarparu ar amser penodol. Ar gyfer y trên sy’n ymadael am 11:30, a fyddech cystal â chyrraedd man cau'r ffordd yn Rhyd y Main ddim hwyrach na 10:55am lle bydd cerbydau'n cael eu hebrwng mewn confoi i Llanuwchllyn. Os yw'r ffordd yn dal ar gau, ar gyfer y trên am 13:30, a fyddech cystal â chyrraedd man cau'r ffordd yn Rhyd y Main erbyn 12:55pm.

Nid yw'r trefnwyr wedi gallu derbyn ein cais i wneud trefniant tebyg ar gyfer traffig o'r Bala. Os gwelwch yn dda naill ai defnyddiwch orsaf y Bala, neu defnyddiwch y B4403 i gyrraedd Llanuwchllyn. Mae'r B4403 yn debygol o wynebu tagfeydd ac fe'ch cynghorir i ganiatáu amser ychwanegol i'n cyrraedd.

Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.