27ain i’r 29ain o Awst 2022
Yn 2020 rydym yn dathlu 50 mlynedd ers i’r trên cyntaf redeg ar Reilffordd Llyn Tegid. Drwy gydol y flwyddyn byddwn yn cynnal sawl gweithgaredd cyffrous i gofnodi’r garreg filltir arbennig yma.
Ar benwythnos Gŵyl y Banc, ym mis Awst, byddwn yn gorffen ein dathliadau gyda gala trenau stêm!
Mae’n bleser gennym gyhoeddi Liassic a Minas de Aller No. 2. ydi’r injans fydd yn ymweld â ni ar gyfer Gala Stêm 50 y Bala ar benwythnos Gŵyl y Banc mis Awst, trwy garedigrwydd yr Statfold Narrow Gauge Trust.
Mae tocynnau Crwydro Diwrnod Aml-daith# yn ogystal â'r dewis arferol o docynnau sengl a dwyffordd bellach ar werth o'n gwefan, ac mae amserlen gyffrous yn cynnwys trenau gyda dwy injan a threnau nwyddau bellach wedi'i chyhoeddi ar gyfer y penwythnos. Mae’r amserlen yn cynnwys taith o’r Bala i Lanuwchllyn gyda Liassic a’r preswylydd Triasic (yn anffodus nid mewn stêm). Roedd y ddau yma yn gweithredu ar y Southam Cement Works yn flaenorol.
# nodwch fod y tocynnau Crwydro Dydd yn ddilys ar gyfer chwe taith sengl a mae'n rhaid noddi rhain o flean llaw, gydag unrhyw deithiau ychwanegol ar y diwrnod ar gael ar gyfradd safonol o £2 (£1 plentyn). Ymddiheurwn am y cymhlethdod ychwanegol, ond bydd hyn yn sicrhau bod seddi ar y trenau i bawb sydd gyda tocyn dilys.
Bydd bysiau traddodiadol yn rhedeg rhwng Gorsaf Bala, Y Stryd Fawr a’r prif safleuoedd parcio yn Y Bala, ac yn cwrdd â phob tren tan 4:30yp.