31ain Gorffennaf 2021
Eleni nid yw "Alice" yn dda ac mae'n cael ei drwsio yn ein sied.
Dewch i gyfarfod “Winifred yr Injan Fach o Gymru” o lyfrau bendigedig Pauline Hazelwood.
Bydd yr Awdures ei hun yn yr orsaf yn Llanuwchllyn i ddarlllen rhai o’r straeon, a dangos y sgiliau a sut i ddarlunio’r cymeriadau, yn ogystal ag arwyddo llyfrau.
Mae’r llyfr cyntaf am ‘Alice’ yn awr ar gael yn Gymraeg wedi i’r gyfrol gael ei lansio yma yn Llanuwchllyn llynedd, a mae Pauline ei hun yn ddysgwr Cymraeg – bydd yn hapus gael sgwrs bach yn yr iaith.
Gallwch ddargnfod mwy am y llyfrau plant yma http://www.saddletankbooks.com/
Bydd cyfle i gael reid bach efo ‘Winifred’ yn yr orsaf yn Llanuwchllyn station yn un o’r cerbydau melynt arbennig o Chwarel Dinorwig gynt a gafwyd eu defnyddio un tro i gludo y teulu brenhinol o gwmpas y chwarel.
Bydd ‘Winifred’ hefyd yn helpu tynnu trên ola’r diwrnod fydd yn gadael Llanuwchllyn am 4:05yh gyda’r injan arall fydd mewn defnydd y diwrnod hwnnw.
Mae’r digwyddiadau yn cychwyn am 10:30yb ac yn gorffen am 4:00yh.
Prisiau arferol am y Teithiau trên, gyda’r holl ddigwyddiadau yn gynnwysedig.