2il Mawrth 2024
Ar y 2il Mawrth dewch i ddathlu Dydd Gwyl Dewi gyda taith ar Reilffordd Llyn Tegid yn rhad ac am ddim i holl drigolion Gogledd Cymru (bydd raid i chi brofi’ch cyfeiriad).
Cynnig Teithio am Ddim / Gostyngol Ddydd Gŵyl Dewi
Bydd trigolion Gogledd Cymru yn gallu mwynhau taith am ddim ar Reilffordd Llyn Tegid dydd Sadwrn 2 Mawrth i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.
Mae pawb arall yn gymwys i gael gostyngiad ar docynnau dwyffordd y siwrne llawn.
Rhaid archebu tocynnau ar-lein yn: https://shop.bala-lake-railway.co.uk/book/
Dewiswch 2il Mawrth fel y ddyddiad; dewisiwch i gychwyn o Lanuwchllyn neu'r Bala; yna taith ddwyffordd, ac yna yr amseroedd ar gyfer eich taith allan ac yn ôl.
Ar gyfer trigolion Gogledd Cymru, rhowch y côd: dewisant-24 yn y blwch côd disgownt. Yna rhowch eich côd post yn y blwch nesaf cyn y byddwch yn gallu dewis eich tocynnau. Tra rydych yn dangos eich tocyn i’r giard, bydd angen hefyd dogfen (trwydded yrru neu fil diweddar) i wirio’ch cyfeiriad yng Ngogledd Cymru.
I bawb arall, rhowch y côd: stdavid-24 yn y blwch côd disgownt. Yna dewiswch eich tocynnau gostyngol a thalu fer arfer.