13eg Ebrill 2024
“Rasio’r trên” ond yn wahanol!
Bydd Padlwyr-bwrdd sefyll a cychod yn rasio yn erbyn y trên o un pen i’r llyn i’r llall. Teithiwch ar y trên i ddilyn y râs.
Mae’r râs dros 4 milltir ar hyd y llyn ac yn gorffen ym mhen Bala o’r llyn.
Gallwch ddilyn y râs gan deithio ar y trên fydd yn cychwyn o Lanuwchllyn am 5:00 union.
Ymholiadau i gymeryd rhan ar y dŵr (byrddau padlo, canŵs, cychod rhwyfo ayyb) i Green Dragon Activities http://www.greendragonactivities.co.uk ebost: greendragonactivities@gmail.com
Bydd y trên arbennig yn gadael Llanuwchllyn am 5:00yh, a mae’r trenau cyhoeddus arferol yn rhedeg yn ôl yr amserlen oren, isod.