Teithiau Siôn Corn

6ed a 7fed Rhagfyr 2025

Mae Siôn Corn unwaith eto wedi derbyn ein gwahoddiad i ymweld â Llanuwchllyn ddydd Sadwrn 6ed a dydd Sul 7fed Rhagfyr 2025.

Bydd ein trenau arbennig yn cael eu tynnu gan ddwy o'n injeni stêm, wedi'u haddurno'n arbennig ar gyfer yr achlysur.

Bydd pob trên yn gadael o Orsaf Llanuwchllyn ar daith i lawr y lein i groto Siôn Corn lle bydd y plant yn cwrdd â Siôn Corn ac yn derbyn anrheg. Mae oedolion yn derbyn mins pei a gwydraid o sieri neu ddiod boeth.

Mae’n hanfodol archebu ymlaen llaw a mae prisiau arbennig ar gael.

Bydd y daith gron yn cymryd tua 45 munud.

Bydd yn bosib archebu cyn bo hir.

PRISIAU
Oedolyn (12 a throsodd) £14.00
Plentyn (1 i 11 oed yn gynwysedig) £16.50
Babi (dan 1 oed) Am ddim
Oedolyn ag anghenion arbennig (yn derbyn anrheg fel plentyn) £16.50
Ci £1

 

GALLWCH ARCHEBU AR-LEIN YN NAWR, DEFNYDDIWCH Y BOTYMAU ISOD: