Arwerthiant Hattons!

Arwerthiant Hattons!

Cyn i Siop Modelau Hattons gau am y tro olaf yn ddiweddar, un o'u gweithredoedd diwethaf oedd i rhoddi eu holl stoc oedd yn weddill ganddynt i Reilffordd Llyn Tegid i godi arian ar gyfer y rheilffordd a'r estyniad arfaethedig i'r Bala.

Daeth y rhan fwyaf o'r hyn a oedd ar ôl o'u casgliad modelau ail-law, er bod rhai eitemau yn newydd sbon, ac yn bennaf mewn graddfeydd 00 a H0.

Bydd Rheilffordd Llyn Tegid yn cynnal arwerthiant o’r stoc yma yn y Ganolfan Dreftadaeth yn Llanuwchllyn ar benwythnos cyntaf y prif dymor ar y 23ain a’r 24ain o Fawrth.

Dewch i fachu bargen!