30ain o Ebrill i’r 2ail o Fai 2022
Mae Rheilffordd Llyn Tegid yn dathlu 50 mlynedd eleni! Byddwn yn dathlu mewn steil gyda sawl digwyddiad cyffrous yn ystod y flwyddyn i nodi'r achlysur.
Ym mis Mai 1972 dechreuwyd osod y rheilffordd am y tro cyntaf ac erbyn mis Awst trafeiliodd y trên cyntaf yn cario teithwyr ar hyd ochr y llyn.
Mae ein dathliad cyntaf eleni yn cyd-fynd gyda'r penwythnos hwnnw yn 1972.
Rydym yn dechrau'r dathliadau gyda 'Bala yn 50!' ar benwythnos Gwyl y Banc ym mis Mai. Yn ogystal âg ail-greu gosod y trac cyntaf, mae'r uchafbwyntiau yn cynnwys:
- Ar Ddydd Sadwrn Ebrill y 30ain: Lawnsio ein llyfr newydd 'Rheilffordd Llyn Tegid - Y 50 Mlynedd Cyntaf - Bala Lake Railway - The first 50 years 1972 - 2022' gyda thrên arbennig yn cael ei dynnu gan Kerr Stuart Wren 'Jennie'.
- 'Jennie' sy'n ymweld â ni o Reilffordd Amerton, fydd yn tynnu trenau ar Ddydd Sadwrn a Llun ac yn ymuno â'n peiriannau ni ar y Sul. Bydd hyn yn goffâd tebyg i 'Dryw Bach' Kerr Stuart Wren oedd yn weithredol ar y rheilffordd yn ystod ein dyddiau cynnar.
Yn Llanuwchllyn bydd mwy o ddathlu gyda:
- injan dau-dyniant
- lori stêm arbennig
- teithiau trên bychain (7 1/4" gauge)
- rheilffordd graddfa 16mm
- amrywiaeth o stondinau
- lawnsiad ein cwrw 'Aur Bala' gyda gwydrau cwrw arbennig ar gyfer y dathliadau