1 - Beth mae tocyn Crwydro Aml-Drip yn ganiatau i mi?
Mae'r tocyn Crwydro yn cynnwys 6 taith sengl rhwng unrhyw ddwy orsaf ar ein lein, fel engraifft, bydd taith o'r Bala i Langower yn cyfrif fel 1, neu taith o'r Bala i Lanuwchllyn. Os ydych yn defnyddio pob un o'ch 6 taith, gallwch brynu mwy am £2 yr Oedolyn a £1 y plentyn. Gellir prynu teithiau ychwanegol wrth fynd ymlaen.
2 - Alla i fynd ar unrhyw drên?
Gallwch fynd ar unrhyw drên. Bydd angen i chi gadw lle ar bob trên yr hoffech deithio arno gan ddefnyddio ein system archebu. Defnyddiwch y ddolen yn eich e-bost tocyn crwydro, neu rhowch rif yr archeb yn y blwch cod disgownt i ddefnyddio eich tocyn crwydro i gadw lle. Fel arall, rydych yn gofyn i'r gwarchodwr eich archebu ar y trên yr hoffech ei gymryd.
3 - Oes rhaid i mi ddewis fy nhrên pan fyddaf yn prynu fy nghrwydryn?
Na, mae'r tocyn crwydro yn rhoi'r hawl i chi deithio, nid yw'n cadw seddi ac ni fydd yn ofynnol i chi ddewis amseroedd trên pan fyddwch chi'n prynu'ch tocyn crwydro. Ond mae raid i chi gadw lle ar y trên cyn teithio.
4 - Ga i archebu trenau ar y diwrnod?
Gallwch wneud archebion gan ddefnyddio'ch tocyn crwydro unrhyw bryd ar ôl ei brynu hyd at y pwynt y disgwylir i'r trên yr ydych am deithio arno adael, yn amodol ar fod lle ar gael ar y trên.
5 - Beth os yw'r trên yn llawn?
Os yw'r trên yn llawn ac nad ydych wedi cadw seddi gan ddefnyddio'ch tocyn crwydro, yna ni fyddwch yn gallu teithio. Rydym yn argymell yn gryf, os oes trên penodol yr hoffech deithio arni, eich bod yn archebu lle cyn gynted â phosibl ar ôl prynu eich tocyn crwydro.
6 - Pam fod rhaid i mi archebu pob taith?
Capasiti cyfyngedig sydd gan ein trenau, mae hyn yn sicrhau y gall deiliaid tocyn crwydro gadw seddi ar bob trên y maent ei eisiau, ar unrhyw adeg, cyn iddynt fod yn llawn.
7 - Oes rhaid i ni deithio fel grŵp?
Mae disgwyl i bob teithiwr sy'n prynu eu tocynnau crwydro fel rhan o'r un archeb deithio gyda'i gilydd. Mae hyn yn cadw pethau'n syml wrth gadw seddi ar gyfer trenau, gan mai'r cyfan sydd angen i chi ei wneud yw dewis yr ymadawiadau cywir. Os hoffech wahanu yn ystod y dydd, prynwch eich tocynnau Crwydro ar wahân.
8 - Alla i brynu tocyn Crwydro i Gŵn
Gallwch, gallwch brynu tocyn Crwydro ci am £1, felly gall eich ci fynd gyda chi bob amser heb unrhyw dâl pellach.
9 - Sut mae prynu tocyn crwydro am ddau neu dri diwrnod
Nid yw ein system archebu yn gallu gwerthu tocyn aml-ddiwrnod fel un archeb. Os ydych chi eisiau crwydro dau neu dri diwrnod, archebwch docyn crwydro ar gyfer eich diwrnod cyntaf fel arfer ar-lein ac yna cysylltwch â ni i ychwanegu eich diwrnodau ychwanegol.
10 - Rwy'n aelod o gymdeithas Rheilffordd Llyn Tegid, a allaf hawlio gostyngiad?
Oes, cysylltwch â ni i gael cod disgownt.