Oes angen i mi wisgo mwgwd?
Bellach, nid oes raid gwisgo mwgwd wrth deithio ar drafnidiaeth cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys ar y Rheilffyrdd Treftadaeth. Fodd bynnag, mae Covid-19 yn parhau o gwmpas, felly gallwch wisgo mwgwd os dyna’ch dymuniad, er mwyn eich amddiffyn eich hun ac eraill.
Faint ymlaen llaw y gallwn archebu tocynnau?
Mae tocynnau ar gyfer ein gwasanaeth arferol ar gael i’w harchebu ymlaen llaw ar gyfer tymor 2023 i gyd. Bydd tocynnau ar gyfer digwyddiadau arbennig ar werth ychydig wythnosau cyn y digwyddiad.
Pryd fydd fy nhocynnau yn cyrraedd?
Os ydych yn archebu eich tocynnau ymlaen llaw ar-lein, byddwch yn derbyn e-docyn. Nid oes angen ei argraffu, ond dylid ei arddangos ar eich dyfais symudol neu gofio eich rhif archebu wrth ymweld â ni yn yr orsaf, cyn dechrau’r daith.
Os ydych chi’n prynu tocyn gan aelod o staff yn yr orsaf, yna byddwch yn derbyn rhif archebu i’w arddangos wrth fynd ar y trên.
Oes angen archebu tocyn i blant o dan 3 mlwydd oed?
Nac oes. Ar yr amod fod plant o dan 3 mlwydd oed yn trafeilio ar eich glîn (ac nid ar sedd unigol). Fodd bynnag, os yr hoffech wneud yn siŵr bod sedd iddynt eistedd arni, yna bydd angen prynu tocyn arferol i blant.
All cŵn deithio ar y trenau?
Gallant. Mae croeso i gŵn drafeilio gyda ni, os yw’r perchnogion yn ymddwyn!
Dylai’r cŵn fod o dan reolaeth ac nid ydym yn caniatâu iddynt eistedd ar ein seddi. Eich cyfrifoldeb chi ydy gwneud yn siŵr nad eich ci/cŵn yn effeithio’n negyddol ar daith eraill sy’n teithio yr un pryd â chi.
Mae cŵn tywys yn cael teithio am ddim a chodir tâl o £1.00 ar bob ci arall.
Allwn ni ymuno ar unrhyw orsaf?
Gallwch, mae modd dechrau neu orffen eich taith ar unrhyw un o’n gorsafoedd:
- Llanuwchllyn (LL23 7DD - lleoliad what3words ///lake.union.node) Dyma ein prif orsaf sy’n cynnwys caffi, tai bach a pharcio am ddim.
- Y Bala (LL23 7BS - lleoliad what3words ///symphony.tracking.lifeboats) gyda nifer cyfyngedig iawn o lefydd i barcio.
- Llangywair (Lleoliad what3words ///quote.title.river) yw ein gorsaf hanner ffordd ble mae maes parcio bychan a thai bach.
- Pentrepiod (Lleoliad what3words ///everyone.ferrying.dolly) yw ein gorsaf fechan, fel arfer ar gyfer cerddwyr a gwersyllwyr cyfagos.
Nodwch: ni allwch ond gael egwyl o’r daith yn y lleoliad y dewisoch wrth brynu’r tocyn, er enghraifft, os ydych wedi archebu tocyn o Lanuwchllyn i Bala ac yn ôl, gallwch drefnu trên hwyrach i ddychwelyd o’r Bala, ond ni allwch dreulio amser yn Llangywair ac ail-ymuno yn nes ymlaen. I fedru gwneud hyn, byddai angen prynu dau docyn gan sicrhau fod yr amseroedd yn addas.
Gwiriwch yn ofalus pa orsaf yr hoffech dreulio amser ynddi cyn archebu eich tocyn.
Mae mwyafrif ein teithwyr yn trafeilio o Lanuwchllyn i’r Bala ac yn ôl.
Allwn ni drafeilio un ffordd?
Gallwch, fe allwch drafeilio un ffordd yn unig.
Beth am docynnau gyda phris gostyngol?
Mae deiliad cardiau HRA, GLTW, ATOC, ac aelodau o Rail Riders, Cymdeithas Rheilffordd Talyllyn, Cymdeithas Rheilffordd Llyn Tegid a.y.y.b. yn gallu derbyn gostyngiad ym mhris eu tocynnau wrth ddefnyddio côd arbennig gan eu sefydliad wrth archebu ar-lein. Os nad ydych wedi derbyn y côd yma, mae croeso i chi ein ffonio.
Nodwch: bydd gofyn i chi ddangos eich cerdyn aelodaeth cyn ymuno gyda ni ar ein trenau.
Alla i drafeilio nôl ar unrhyw drên?
Na, mae eich tocyn ar gyfer taith dychwelyd penodol.
Allwn ni archebu seddi penodol?
Er bod archebu tocyn yn sicrhau sedd i chi ar ein trên, ni allwn arbed seddi penodol ar eich cyfer.
Wrth gyrraedd ein gorsaf gallwch ddewis eich sedd ar gerbyd agored neu gaëdig yn ddibynnol ar ba seddi sydd dal ar gael.
Os ydw i’n cyrraedd yr orsaf yn hwyr a cholli fy nhrên, alla i drafeilio ar yr un nesaf?
Na, yn anffodus.
Gwnewch yn siwr eich bod yn gadael digon o amser i drafeilio i’r orsaf o’ch dewis. Dylid anelu at gyrraedd o leiaf 15 munud ymlaen llaw.
Peidiwch dibynnu ar Google yn unig wrth deithio atom gan fod Google yn dueddol o arwain pawb at ein prif orsaf yn Llanuwchllyn. Mae’r holl wybodaeth sydd angen arnoch ar eich e-docyn.
Alla i brynu tocyn yn yr orsaf?
Gallwch, gan un o’n staff yng ngorsaf Llanuwchllyn neu Y Bala, os oes dal seddi ar gael ar gyfer y daith benodol honno. Nodwch mai ar-lein yn unig y gellir cael pris gostyngol.
Gallwch brynu tocyn am bris gostyngol ar eich dyfais symudol yn ein gorsaf ychydig funudau cyn trafeilio os dymunwch.
Rhaid archebu tocyn ar-lein os yn dechrau’r daith o Langywair neu Bentrepiod.
I osgoi siom dylid archebu tocyn ymlaen llaw os am deithio o un o’r gorsafoedd yma. Os ydych yn cyrraedd un o’r gorsafoedd yma heb docyn, bydd gofyn i chi archebu ar-lein. Mae pris gostyngol ar gyfer nifer o docynnau os archebwch eich hunan.
Allwn ni ddod a phram neu feic ar y trên gyda ni?
Na, yn anffodus, oherwydd diffyg lle yn ein cerbydau.
Ydy eich caffi ar agor?
Ydy, mae ein caffi yng ngorsaf Llanuwchllyn ar agor bob dydd pan mae’r trenau yn trafeilio.
Ydy eich tai bach ar agor?
Ydyn, mae ein tai bach yng ngorsaf Llanuwchllyn ar agor.
Nodwch, nad oes tai bach bellach yng ngorsaf Y Bala.
Os ydy’r tywydd yn wael, alla i ganslo neu newid y tocyn?
Na, yn anffodus. Mae ein trenau yn teithio ym mhob tywydd ac mae eich tocyn yn ddilys am y daith yr archeboch chi’r tocyn yn unig. Os yw’r tywydd yn bwysig yn eich penderfyniad, yna gallwch archebu yn agosach i’r dyddiad teithio delfrydol, os bydd tocynnau dal ar gael wrth gwrs.
Nodwch, bydd ein cerbydau agored yn cael eu defnyddio ym mhob tywydd a’r pobl sy’n prynu tocynnau gyntaf fydd yn cael dewis ble i eistedd yn gyntaf. Dylid felly gwisgo dillad addas rhag ofn y bydd y tywydd yn wael ac mai’r cerbydau agored yn unig fydd ar gael erbyn hynny. Ni fydd ad-daliad os mai eich penderfyniad chi yw dewis peidio trafeilio gyda ni mewn amgylchiadau tywydd fel hyn.