11eg a'r 12fed o Ragfyr, 2021
Gallwch archebu ar gyfer ein Trenau Arbennig Mins Peis rwan, yn barod ar gyfer mis Rhagfyr.
Ymunwch yn hwyl yr Wyl y Nadolig yma ar un o'n teithiau arbennig.
Rydym yn disgwyl llawer o ddiddordeb yn ein teithiau blynyddol, felly archebwch yn gynnar i osgoi siom.
Dyma beth allwch chi ei ddisgwyl:
- y rheilffordd wedi ei addurno gyda chymeriadau Nadoligaidd i'ch diddanu
- diod poeth a mins pei i'ch croesawu yn ein gorsaf yn Llanuwchllyn
- band prês yn chwarae cerddoriaeth Nadoligaidd
- golau ac addurniadau Nadoligaidd ar ein trenau
- taith ddychwelyd i'n gorsaf yn Llangywair
- bydd Siôn Corn yn rhoi siocled yn anrheg i'r plant a gwin poeth i'r oedolion
Bydd y trenau yn gadael ar yr amseroedd canlynol ar y Dydd Sadwrn:
-
- 11.30 yb
- 12.30 yh
- 1.30 yh
- 3.00 yh
- 4.00 yh
- 5.00 yh
- 6.00 yh
Ar y Dydd Sul, bydd y trenau yn gadael ar yr amseroedd isod:
-
- 11.30 yb
- 12.30 yh
- 1.30 yh
- 3.00 yh
- 4.00 yh
Os gwelwch yn dda, cyrhaeddwch 15 munud cyn eich amser gadael fel bo cyfle i chi dderbyn eich diod a mins pei.
Mae archebu o flaen llaw yn hanfodol. Ni fydd yn bosibl troi fyny ar y dydd heb archebu ymlaen llaw.
Prisiau:
Oedolion: £8
Aelodau RhLlT: £7 (bydd rhaid profi rhif aelodaeth)
Phlentyn: £5
Cwn: £1
Oedolyn a phlentyn: £12
Isafswm cost i bob archeb: £16