Trenau Arbennig Mins Peis

11eg a'r 12fed o Ragfyr, 2021

Gallwch archebu ar gyfer ein Trenau Arbennig Mins Peis rwan, yn barod ar gyfer mis Rhagfyr.

Ymunwch yn hwyl yr Wyl y Nadolig yma ar un o'n teithiau arbennig.

Rydym yn disgwyl llawer o ddiddordeb yn ein teithiau blynyddol, felly archebwch yn gynnar i osgoi siom.

Dyma beth allwch chi ei ddisgwyl:

  • y rheilffordd wedi ei addurno gyda chymeriadau Nadoligaidd i'ch diddanu
  • diod poeth a mins pei i'ch croesawu yn ein gorsaf yn Llanuwchllyn
  • band prês yn chwarae cerddoriaeth Nadoligaidd
  • golau ac addurniadau Nadoligaidd ar ein trenau
  • taith ddychwelyd i'n gorsaf yn Llangywair
  • bydd Siôn Corn yn rhoi siocled yn anrheg i'r plant a gwin poeth i'r oedolion
Bydd y trenau yn gadael ar yr amseroedd canlynol ar y Dydd Sadwrn:

    • 11.30 yb
    • 12.30 yh
    • 1.30 yh
    • 3.00 yh
    • 4.00 yh
    • 5.00 yh
    • 6.00 yh
Ar y Dydd Sul, bydd y trenau yn gadael ar yr amseroedd isod:

    • 11.30 yb
    • 12.30 yh
    • 1.30 yh
    • 3.00 yh
    • 4.00 yh

Os gwelwch yn dda, cyrhaeddwch 15 munud cyn eich amser gadael fel bo cyfle i chi dderbyn eich diod a mins pei.

Mae archebu o flaen llaw yn hanfodol. Ni fydd yn bosibl troi fyny ar y dydd heb archebu ymlaen llaw.

Prisiau:

Oedolion: £8

Aelodau RhLlT: £7 (bydd rhaid profi rhif aelodaeth)

Phlentyn: £5

Cwn: £1

Oedolyn a phlentyn: £12

Isafswm cost i bob archeb: £16