19eg a 20fed Medi 2026
Cynhelir sioe fodel Y Bala 2026 yn Ysgol Godre'r Berwyn yn y Bala.
Oriau agor: 10.00-16.00 ar y Sadwrn a'r Sul.
Prisiau mynediad: Oedolion £7, Consesiwn £6, y plentyn cyntaf yn rhad ac am ddim gydag oedolyn/consesiwn, plant ychwanegol £2.
Bydd lluniaeth a pharcio am ddim ar gael.
Sylwch mai dim ond cŵn cymorth a ganiateir i ddod i mewn i'r sioe.
Gwasanaeth bws i ac o orsaf Y Bala Reilffordd Llyn Tegid i gysylltu â'n trenau.
Rydym yn disgwyl dros ddau ddeg o fodelau, a digon o stondinau manwerthu.
Mae’n hawdd ymweld â Sioe Fodelau’r Bala a reidio trennau Rheilffordd Llyn Tegid gan ein bod yn cysylltu lleoliad y sioe â gorsaf y Bala efo gwasanaeth hen fws traddodiadol sy’n rhad ac am ddim. Os ydych yn ymweld â’r ddau, rydym yn argymell parcio yn yr ysgol ar gyfer y sioe modelau a defnyddio’r bws i gyrraedd yr orsaf, neu fel arall ddechrau eich diwrnod yn Llanuwchllyn a theithio ar y trên a’r bws i’r sioe. Cliciwch yma am amserlen y bus.









