Clywyd cais cynllunio Rheilffordd Llyn Tegid ar gyfer ymestyn y rheilffordd i ganol tref y Bala heddiw, 19 Ebrill 2023.
Cyflwynodd Swyddog Cynllunio Parc Cenedlaethol Eryri achos y rheilffordd gydag argymhelliad i’w wrthod.
Y rheswm sylfaenol yw na all fod unrhyw sicrwydd, gyda thwristiaid ychwanegol yn dod i'r Bala i deithio ar y trên, na fyddai rhoi caniatâd yn mynd yn groes i ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru ynghylch ffosffadau ychwanegol yn yn yr afon Dyfrdwy.
Yn syml, bydd mwy o dwristiaid i'r dref yn golygu mwy o gynyddu yn lefelau carthffosiaeth.
Roedd hyn yn siom aruthrol i’r tîm o wirfoddolwyr sydd wedi bod yn gweithio ar y prosiect hwn ers dros naw mlynedd ac i’r cannoedd lawer o roddwyr sydd wedi bod mor hynod hael â chymorth ariannol.
Dywedodd Julian Birley, cadeirydd Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llyn Tegid “Nid dyna’r canlyniad yr oeddem wedi obeithio amdano mewn gwirionedd. Roeddem yn disgwyl caniatâd gyda nifer o amodau neu i'r achos gael ei ohirio er mwyn caniatáu amser i ni ymgysylltu ymhellach â'r ymgyngoreion i gwblhau'r holl faterion sy'n weddill, a dim ond ar ôl cyhoeddi'r adroddiad terfynol y cawsom wybod am rai ohonynt.
Roedd yn amlwg iawn bod aelodau’r pwyllgor, mewn egwyddor, yn cefnogi ein prosiect a’r manteision economaidd a masnachol yn ddiamau i’r Bala a’r cyffiniau. Fodd bynnag, roedd llawer ohonynt yn amharod i fynd yn groes i argymhelliad a chyfeiriad y Swyddog Cynllunio. Dadleuodd rhai aelodau’n frwd o blaid y rheilffordd ond nid oedd yn ddigon i gario’r mwyafrif a gwrthodwyd y cais.”
Ond, nid yw popeth drosodd.
Mae pawb eisiau gweld yr estyniad yn ddigwydd. O’r AS Liz Saville-Roberts, a gymerodd amser o Siambr San Steffan i ddarganfod y canlyniad, i Mabon ap Gwynfor AS, i’r cynghorydd Dilwyn Morgan, maer tref Y Bala, Owain Rhys Evans, Cyngor Gwynedd, busnesau a thrigolion y dref heb sôn am y tri chant o lythyrau o gefnogaeth a anfonwyd i'r Parc Cenedlaethol yn ogystal â'r rhoddwyr di-ri.
Ac ar gyfer yr holl bobl hynny rydym yn mynd i wneud cais eto a bydd tref y Bala yn cael ei rheilffordd yn hwyr neu hwyrach.
Gan ein bod yn elusen, rydym yn ddibynnol ar godi arian ac i’r perwyl hwnnw rydym yn lansio apêl ar unwaith i bobl barhau i gredu yn y prosiect a’i gefnogi drwy gyfrannu drwy’r wefan:
www.balalakerailwaytrust.org.uk
Bydd y diwrnod y daw y drên yn ôl i'r Bala yn digwydd. Ond yn unol â rheilffyrdd y genedl mae’n rhedeg yn hwyr!
Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llyn Tegid. 19 Ebrill 2023